Skip to main content

Chwalu Ffiniau: Dathlu Menywod mewn Chwaraeon o Sir Gâr

Dyddiad cychwyn
08-03-25
Dyddiad gorffen
19-10-25
Lleoliad
Amgueddfa Parc Howard

Chwalu Ffiniau: Dathlu Menywod mewn Chwaraeon o Sir Gâr

Mae’r arddangosfa hon wedi’i churadu ar y cyd gan grŵp o guraduron a gwneuthurwyr ffilmiau benywaidd ifanc o bob rhan o Sir Gâr.

 

Wrth feddwl am dreftadaeth chwaraeon y sir mae’n anochel y byddwn yn meddwl am Rygbi dynion a llwyddiannau’r 1970au.Ond nid chwaraewyr rygbi yn unig oedd yn cael llwyddiant rhyngwladol.Roedd menywod hefyd yn creu gyrfaoedd chwaraeon rhyngwladol llwyddiannus mewn chwaraeon a oedd yn aml yn cael eu dominyddu gan ddynion. Yn wahanol i'w cymheiriaid gwrywaidd ni ddaethant yn enwau cyfarwydd yn eu trefi genedigol. Yn wir, mae llawer wedi mynd yn angof erbyn hyn.

 

Nod yr arddangosfa hon yw unioni'r fantol ac amlygu llwyddiannau chwaraeon Merched Sir Gâr o ddechrau'r 20fed ganrif hyd heddiw.