Celf ar y Bwydlen
Dyddiad cychwyn
21-09-24
Dyddiad gorffen
18-11-24
Lleoliad
Amgueddfa Parc Howard
Celf ar y Bwydlen - Arddangosfa Deithiol o 'The Exhibitours'
Arddangosfa yn archwilio arbrawf anarferol yn hanes dylunio a ymddangosodd yn siop Harrods yn Llundain yn 1934. Heriwyd 27 o artistiaid i godi safon dylunio trwy weithio gyda ffatrïoedd cerameg blaenllaw i gynhyrchu llestri bwrdd fforddiadwy at ddefnydd bob dydd. Roedd y canlyniadau yn amrywiol ac yn hynod ddiddorol.
Roedd yr artistiaid a gymerodd ran yn cynnwys yr artistiaid ffigurol Laura Knight, Duncan Grant o’r Bloomsbury Group a Vanessa Bell a modernwyr blaenllaw gan gynnwys Paul Nash, Barbara Hepworth a Ben Nicholson.
Yn cael eu harddangos bydd enghreifftiau o’r cerameg a grëwyd ar gyfer yr arddangosfa a gwybodaeth yn archwilio’r artistiaid dan sylw ac etifeddiaeth y dyluniadau.