Skip to main content

Cariad: Hanes Carwriaeth a Phriodas yng Nghymru

Dyddiad cychwyn
09-05-23
Dyddiad gorffen
29-08-23
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gâr

Yn gudd yng nghasgliadau Amgueddfa Sir Gâr mae pethau a roddwyd gan bobl fel arwydd o'u cariad, ac maent yn rhoi syniad i ni o arferion caru unigryw i Gymru. Yn yr arddangosfa hon, edrychwn ar yr hanesion tu ôl i'r traddodiadau hyn, ac er bod cariad wedi aros yn rhywbeth cyson, mae'r modd y mae wedi cael ei fynegi a'i ddathlu ar hyd y blynyddoedd wedi adlewyrchu'r newidiadau yn y gymdeithas.