Skip to main content

Anrhydeddu'r Gorffennol, Llunio'r Dyfodol

Noder mai lleoliad y digwyddiad yw Canolfan John Burns.

Dyddiad cychwyn
06-03-26
Dyddiad gorffen
06-03-26
Lleoliad
Gwaith Tunplat Cydweli

Anrhydeddu'r Gorffennol, Llunio'r Dyfodol: Sgwrs gymunedol am ailagor Amgueddfa Tunplat Cydweli

Os hoffech gyfrannu at greu gweledigaeth ar gyfer gwarchod treftadaeth ddiwydiannol tunplat Cydweli, ymunwch â ni yn y digwyddiad hwn. Bydd hwyluswyr y grŵp Lorena Bacino ac Alice Blackwell yn arwain trafodaethau ynghylch cyflwyniadau gan yr Athro Louise Miskell a Katherine Watson (Prifysgol Abertawe), Dr Marian Gwyn (Ymgynghorydd Amgueddfeydd), a Morrigan Mason (Rheolwr Datblygu'r Amgueddfeydd a'r Celfyddydau).

 

Cefnogir y digwyddiad hwn gan Gronfa Ddiwylliant Cymru Wrth-Hiliol Llywodraeth Cymru. Yn ystod y digwyddiad byddwn yn rhannu canlyniad partneriaeth rhwng Prifysgol Abertawe a CofGâr (gwasanaeth amgueddfeydd a chelfyddydau Cyngor Sir Caerfyrddin). Diben y bartneriaeth hon yw torri tir newydd wrth ymchwilio i hanesion trefedigaethol byd-eang y diwydiant tunplat yn ne-orllewin Cymru, gan edrych ar Waith Tunplat Cydweli yn benodol.

 

Mae'r sgwrs gymunedol hon yn gofyn i ni feddwl am sut y gallai Amgueddfa Tunplat Cydweli ar ei newydd wedd fod o help i'r gymuned. Byddwn yn edrych ar sut y gall ymchwil arwain at fwy o brosiectau a phartneriaethau. Gyda'n gilydd, byddwn yn archwilio sut y gall dysgu am orffennol tunplat Cymru ein helpu i ddysgu a siapio ein hardal leol.

Gwybodaeth am y Digwyddiad

Dyddiad: 6 Mawrth 2026

 

Amser: 3yp - 7yp

 

Lleoliad: Ystafell Galloway, Canolfan John Burns, Heol Caerfyrddin, Cydweli, SA17 5AB

 

Pris: Am ddim

 

Rhaid archebu lle ymlaen llaw: https://www.ticketsource.co.uk/cofgar/t-oejgyol 

 

Mynediad: Mae croeso i unrhyw un sy'n dod i'r digwyddiad ddefnyddio'r Gymraeg a bydd gwasanaeth cyfieithu ar gael. Mae modd parcio am ddim yn y lleoliad. 

 

Lluniaeth: Bydd diodydd cynnes a bisgedi ar gael trwy gydol y digwyddiad. 

Rhaid archebu lle ymlaen llaw