Pentywyn a Cyflymder
Pan ddaw i ymdrechion bodau dynol, ni fyddai’n annheg cymharu’r ardal hon o Sir Gaerfyrddin â Mynydd Everest a Cape Kennedy. Mewn ymgais i fynd hyd yn oed yn uwch a hyd yn oed ymhellach, roedd pobl wedi meiddio teithio yn gyflymach ar dir yma na neb o'r blaen. Gallai'r gyrwyr rasio a fentrodd allan i’r elfennau anhysbys ym mheiriannau cyflymder brawychus y 1920au cynnar fod wedi wynebu perygl, buddugoliaeth neu drasiedi.
Sunbeam “Bluebird”, y car cyflymaf yn y byd pan gafodd ei greu ym 1919; mae bellach yn National Motor Museum Beaulie.
Cyn i’r defnydd tarmacadam gael ei greu, roedd bron yn amhosibl dod o hyd i fan agored oedd yn cael ei ail-wynebu ddwywaith y dydd ac oedd gydag arwyneb cadarn a gwastad, yn ogystal â rhediadau dwy filltir o hyd ar ddau ben trac milltir fesuredig, yn unman yn Ewrop – heblaw am ym Mhentywyn. Hyd yn oed ym Mhentywyn, dim ond am ychydig ddyddiau yn ystod y flwyddyn gyfan oedd y tywod yn ddigon caled i gynnal y pwysau aruthrol o 3 tunnell fetrig yn ddiogel wrth i’r ceir symud mor gyflym, sef pwysau’r cerbydau fel Napier-Campbell oedd wedi torri recordiau cyflymder tir (fe wnaeth 'Babs' bwyso llai na dwy dunnell).
Pan fo'r amodau'n iawn, gall arwyneb caled Traeth Pentywyn ddarparu trac rasio naturiol.
Roedd ymdrechion i dorri recordiau cyflymder tir yn nodwedd o fyd rasio Prydain yn y 1920au a thu hwnt, gydag arwyr adnabyddus yn eistedd tu ôl i’r llyw. Yn eu plith roedd Malcolm Campbell a’r Cymro J G Parry Thomas, yr oedd eu cyfres o ymdrechion i dorri recordiau cyflymder tir ym Mhentywyn rhwng 1925 a 1927 yn enwog dros ben.
Ym Mhentywyn ym mis Gorffennaf 1925, fe wnaeth Sunbeam (‘Bluebird’) 12-silindr Malcolm Campbell godi’r marc swyddogol o 150mya a gosod record cyflymder tir y byd newydd ar filltir fesuredig, yn 150.766mya. Wyth mis yn ddiweddarach, fe wnaeth Henry Seagrave godi hyn i 152.33mya yn Southport, mewn Sunbeam arall. Pan dorrodd Parry Thomas y record yma ym 1926 yn ei gerbyd Higham-Thomas ag injan Liberty 27-litr (‘Babs’), gyda gwahaniaeth o 18.294mya, wnaeth e osod record newydd o 170.624mya. Roedd hyn yn gamp sylweddol ar y pryd, a chyrraedd 180mya ddaeth y targed newydd. Ym mis Chwefror 1927, fe wnaeth Campbell dorri’r record yna a’i chodi unwaith eto i 174.223 mewn cerbyd ‘Bluebird’ Napier-Campbell ar Draeth Pentywyn.
Nid oes fawr o amheuaeth bod 200mya y tu hwnt i allu Pentywyn bryd hynny. Roedd Seagrave eisoes ar y moroedd mawr, ar ei ffordd i Daytona yn Florida, lle byddai'n cyrraedd 200mya yn y Sunbeam newydd. Doedd neb wedi llwyddo i fynd yn gyflymach na’r record o 200mya gafodd ei gosod ar Draeth Pentywyn am naw deg mlynedd, tan 2018. Dyna pryd y llwyddodd Zef Eisenberg i gyrraedd y cyflymder uchaf erioed mewn cerbyd ag olwynion a yrrid gan injan ym Mhentywyn, sef 201.5mya yn ei MADMAX Supercharged Hayabusa.