Skip to main content

Ysgolion

Ar hyn o bryd, dim ond ymweliadau hunandywys sydd ar gael i ysgolion yn Amgueddfa Sir Gâr. Mae Amgueddfa Parc Howard a’r Amgueddfa Cyflymder ar y Tir yn agor yn 2023 a bydd y ddwy’n cynnig profiadau dysgu gwahanol. Rydym yn bwriadu cynnig gweithdai a phrofiadau dysgu newydd ar y safle ac ar-lein yn y dyfodol. Yn rhan o hyn, bydd sesiynau wedi’u hwyluso ar gael i gefnogi’r Cwricwlwm newydd yng Nghymru.

 

Amgueddfa Sir Gâr a Pharc yr Esgob

Gall trip gynnwys yr amgueddfa a Pharc yr Esgob. Gall un ysgol ymweld â’r amgueddfa bob dydd, o Ddydd Mawrth i Ddydd Gwener. Ar hyn o bryd mae angen trefnu ymweliadau ar gyfer Parc yr Esgob ar wahân. I gael rhagor o wybodaeth, gwelwch eu gwefan lle mae llawer o syniadau am ddysgu, neu cysylltwch ag  enquiries@tywigateway.org.uk.

 

Mae gan adeilad yr amgueddfa ei hanes ei hun am ei fod ar un cyfnod yn balas i Esgobion Tyddewi. Mae ein arddangosiadau’n cynrychioli penodau yn stori Sir Gâr. Mae’r orielau parhaol yn dangos yn fyw iawn y bobl hynny yng ngorffennol Sir Gâr a ddaeth â newidiadau ac a gynorthwyodd i siapio ein presennol. Mae’r lleoedd dysgu’n cynnwys ystafell ysgol Oes Fictoria, y Ffrynt Cartref, Cegin yr Esgob a Chapel yr Esgob

 

Bydd yr Oriel Ddarganfod yn agor yn 2023.  Mae’r oriel hon yn defnyddio casgliadau’r amgueddfa, arddangosfeydd tymor byr a gweithgareddau rhyngweithiol i ysbrydoli sgyrsiau am gynaliadwyedd amgylcheddol, economaidd a chymdeithasol. Mae ein harddangosfeydd mwy’n rhoi cyfle i chi archwilio pynciau’n ddyfnach. Mae’r ffilmiau hyn yn disgrifio sut mae pobl ifanc wedi defnyddio arddangosfa amgueddfa sy’n archwilio amherffeithrwydd i ysbrydoli prosiect creadigol dan arweiniad cyfoedion.

 

Amgueddfa Parc Howard

Mae’r amgueddfa hon wedi cau ar gyfer gwaith adnewyddu hyd y yr haf 2023. Pan ddewch i ymweld, cewch eich cymryd drwy stori unigryw newid cymdeithasol ac ysbryd cadarn Llanelli, wedi ei hadrodd drwy gasgliadau’r amgueddfa. Mae’r cyfleusterau’n cynnwys oriel ryngweithiol ar thema plentyndod, chwarae a dyfeisio, ac ystafell ginio. Rydym hefyd wedi cynhyrchu ffilmiau am Grochenwaith Llanelly a fydd o ddefnydd i chi gobeithio.

 

Yr Amgueddfa Cyflymder ar y Tir

Mae’r amgueddfa newydd a charedig i’r amgylchedd hon ar y traeth yn agor yn fuan yn 2023. Mae’n adrodd y stori ryfeddol am Bentywyn, oedd yn ganolbwynt i’r recordiau byd a osodwyd am gyflymder ar y tir o’r 1920au hyd y presennol, ac mae’n cynnig profiad unigryw i ysgolion. Bydd arddangosfeydd rhyngweithiol a chlyweledol yn dod â straeon go iawn am ymdrech a dyfeisgarwch dynol yn fyw, a bydd cyfle i chi ddysgu’n ymarferol am ddaeareg, ffiseg a pheirianneg.

Dychwelyd i’r Dudalen Ddysgu