Dyfarnwyd Grant Ailddychmygu Art Fund i Gartref Dylan Thomas
Mae CofGâr yn falch o gyhoeddi bod Cartref Dylan Thomas wedi derbyn £39,643 drwy raglen grantiau Ailddychmygu Art Fund. Bydd y grant mawreddog hwn yn galluogi Cartref Dylan Thomas i ailddychmygu ei ddull o ddysgu, ymgysylltu â'r gymuned a phartneriaethau, gan sicrhau ei fod yn parhau i fod yn ganolbwynt diwylliannol bywiog i drigolion ac ymwelwyr fel ei gilydd.
Nod penodol y prosiect, sef prosiect ar y cyd rhwng CofGâr, Kids in Museums a Gwasanaeth Addysg Sir Gâr, yw datblygu rhaglenni a gwasanaethau sy'n cynyddu cyfranogiad ymhlith teuluoedd, pobl ifanc a phlant. Nod y fenter hon yw rhoi'r sgiliau a'r profiad angenrheidiol i Gartref Dylan Thomas a phartneriaid lleol eraill sy'n ymwneud â'r prosiect hwn, i gael effaith hirdymor, gan helpu plant a phobl ifanc yn Sir Gâr i gael dechrau cryf mewn bywyd.
Mae'r rhaglen Ailddychmygu, a lansiwyd gan Art Fund yn 2020, wedi'i chynllunio i ysbrydoli creadigrwydd a chynyddu sefydlogrwydd a gwytnwch mewn amgueddfeydd ac orielau ledled y DU. Mae'r cylch cyllid diweddaraf hwn, sy'n werth cyfanswm o £1 miliwn, wedi'i flaenoriaethu ar gyfer amgueddfeydd ac orielau sy'n dibynnu ar gymorth gan awdurdodau lleol, mewn ymateb i heriau sylweddol a nodwyd gan Arolwg Cyfarwyddwyr Amgueddfeydd 2024 Art Fund a gwaith ymchwil arall. Mae grantiau Ailddychmygu yn cael eu hariannu gan Art Fund ac yn bosibl diolch i gymorth gan Ymddiriedolaeth Headley, ochr yn ochr ag ymddiriedolaethau hael eraill a chefnogwyr yr ymgyrch Creu Cysylltiadau.
Mynegodd y Cynghorydd Hazel Evans, Aelod Cabinet Cyngor Sir Gâr dros Adfywio, Hamdden, Diwylliant a Thwristiaeth, ei brwdfrydedd dros y prosiect:
"Rydym wrth ein bodd bod Cartref Dylan Thomas wedi cael ei gydnabod gyda'r grant hwn gan Art Fund. Bydd y cyllid hwn yn ei gwneud yn bosibl i ffurfio cysylltiadau newydd â chynulleidfaoedd trwy bartneriaethau, hyrwyddo creadigrwydd ac arbrofi, a datblygu ffyrdd o helpu mwy o bobl i werthfawrogi gwaith Dylan Thomas a chael eu hysbrydoli gan ei gartref teuluol rhyfeddol a'i Sied Ysgrifennu yn Nhalacharn. Rydym yn edrych ymlaen at weld yr effaith gadarnhaol y bydd y prosiect hwn yn ei chael ar ein tirwedd ddiwylliannol."
Dywedodd Jenny Waldman, Cyfarwyddwr Art Fund:
"Rydym yn hynod falch o gynnig cymorth gwerth £1 miliwn i amgueddfeydd ac orielau ledled y DU sy'n dibynnu ar awdurdodau lleol - o Sir Gâr i Sir Fermanagh - drwy'r cylch diweddaraf hwn o grantiau Ailddychmygu. Mae'r prosiectau'n arddangos gwerth anhygoel amgueddfeydd lleol i gymunedau ac yn dangos eu huchelgais, eu gwytnwch a'u hysbryd entrepreneuraidd rhyfeddol yn wyneb heriau cynyddol."