Skip to main content

Wonderland! Llwybr stori rhyngweithiol Pasg gan Louby Lou's Storytelling

Dyddiad cychwyn
04-04-24
Dyddiad gorffen
04-04-24
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Mae profiad hudolus yn eich disgwyl wrth i gast Louby Lou o storïwyr arbenigol eich arwain chi drwy Wonderland Alice a’r cymeriadau lliwgar hynny y mae’n cwrdd â nhw ar hyd y ffordd!

 

Mae’r llwybr stori rhyngweithiol, hwyliog hwn yn cychwyn y tu allan i fynedfa Amgueddfa Sir Gaerfyrddin, yna’n mynd yn ei flaen dan do ar draws gwahanol rannau o Hen Balas yr Esgob. Gadewch i'ch dychymyg redeg yn wyllt wrth i chi ymuno yn y chwerthin a chymryd rhan yn y stori gydag amrywiaeth o gymeriadau rhyfedd a rhyfeddol a fydd yn dod â Wonderland yn fyw!

Manylion y Digwyddiad

Wedi ei anelu at blant 3-11 oed, ond mae croeso i bob oed.


£8.50 y plentyn


Tair sesiwn:

 

  • 10:15yb - 11:15yb

 

  • 12:45pm - 1:45pm

 

  • 2:30pm - 3:30pm