Skip to main content

Llwybr 'Tourmaline and the Museum of Marvels'

Dyddiad cychwyn
24-02-25
Dyddiad gorffen
02-03-25
Lleoliad
Amgueddfa Parc Howard

Llwybr 'Tourmaline and the Museum of Marvels'

Rhwng 24 Chwefror a 2 Mawrth ymunwch â ni yn Amgueddfa Parc Howard ar gyfer Llwybr 'Tourmaline and the Museum of Marvels', a drefnir gan Kids in Museums a Little Tiger. Mae’r llwybr cenedlaethol i deuluoedd wedi’i ysbrydoli gan 'Tourmaline and the Museum of Marvels' gan Ruth Lauren – cyfres antur ffeministaidd hwyliog i blant 9 – 12 oed.


Mae pwerau hudol newydd rhyfedd Tourmaline yn achosi anhrefn ac mae hi wir eisiau gwybod sut i'w rheoli. Pan mae’n derbyn cerdyn post dirgel yn addo ei hatebion, mae’n cychwyn ar antur fythgofiadwy i’r 'Museum of Marvels'.


Codwch daflen weithgaredd am ddim i ymuno yn Amgueddfa Parc Howard. Chwiliwch am Tourmaline, ei ffrindiau ac amrywiaeth o wrthrychau hudol sy'n cuddio yn yr amgueddfa. Cwblhewch y llwybr gwylio a chael sticer Tourmaline am ddim!


Gall plant hefyd ddylunio eu hamgueddfa ryfeddodau eu hunain. Bydd tri chynllun buddugol yn ennill bwndel llyfrau Tourmaline wedi’i lofnodi a 'National Art Pass' (a phlant) trwy garedigrwydd Art Fund – gan roi mynediad am ddim i un oedolyn a phlant dan 16 oed i gannoedd o amgueddfeydd, orielau a thai hanesyddol ledled y DU yn ogystal â 50% oddi ar arddangosfeydd mawr!


Telerau ac amodau llawn y gystadleuaeth: https://bit.ly/tourmalinetrail