The Herds yn Amgueddfa Cyflymder
The Herds yn Amgueddfa Cyflymder
Bydd yr Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn yn cynnal cyfres o ddigwyddiadau a ysbrydolwyd gan y prosiect celf cyhoeddus rhyngwladol a gweithredu ar yr hinsawdd, The Herds, a gefnogir gan Art Fund.
O fis Ebrill i fis Awst 2025, bydd buchesi cynyddol o anifeiliaid pyped maint bywyd yn stampio i ddinasoedd ledled Affrica ac Ewrop i ffoi rhag trychineb hinsawdd. Mae The Herds yn waith celf cyhoeddus ar raddfa na wnaethpwyd erioed o'r blaen a bydd yn dramateiddio'r argyfwng hinsawdd yn fyw.
Gyda chymorth yr Art Fund, mae’r Amgueddfa Cyflymder yn ymuno â The Herds ochr yn ochr â 43 o amgueddfeydd, orielau a thai hanesyddol ledled y DU, gan ddod â digwyddiadau artistig, gweithdai a gweithgareddau addysgol i gymunedau lleol i ysbrydoli’r genhedlaeth nesaf a dyfnhau cysylltiadau â byd natur.
Bydd digwyddiadau’r Amgueddfa Cyflymder yn cynnwys diwrnod bywyd gwyllt a chadwraeth i ddathlu amgylchedd unigryw Pentywyn a’r anifeiliaid hynny sydd wedi ymgartrefu yno. Bydd arddangosfeydd a gweithdai gan glybiau a chymdeithasau bywyd gwyllt lleol a gall teuluoedd wneud pypedau anifeiliaid wedi’u hysbrydoli gan rywogaethau lleol sydd mewn perygl. Bydd ysgolion a grwpiau addysg hefyd yn cael eu gwahodd i gymryd rhan gyda’r digwyddiadau yn cynnig y cyfle perffaith i ddatblygu ‘cynefin’ ac ymwybyddiaeth o gynaliadwyedd.
Bydd The Herds yn ymgysylltu â chynulleidfaoedd ar hyd y llwybr 20,000km gyda pherfformiadau arbennig yn y DU yn Llundain 27 – 29 Mehefin, a Manceinion Fwyaf 3 – 5 Gorffennaf. Mae’r holl ddigwyddiadau am ddim ac wedi’u cynllunio mewn cydweithrediad â phartneriaid lleol i greu digwyddiad cyfranogol hynod bwerus.
Bydd adnodd dysgu ategol ‘Let The Wildness In’, a gefnogir gan Art Fund, ar gael i ymgysylltu ag ysgolion, teuluoedd a chymunedau ledled y byd gydag adnoddau y gellir eu lawrlwytho am ddim, pecynnau addysg a gweithgareddau, rhestrau darllen, cynlluniau gwersi a chitiau dylunio pypedau ffynhonnell agored.
Cyflwynir The Herds mewn partneriaeth â sefydliadau hinsawdd byd-eang - gan gynnwys WWF International, Save the Elephants, Wild Africa, Global Rewilding Alliance a TED Countdown - yn ogystal â nifer o sefydliadau celfyddydol, gwyddonwyr, artistiaid, sŵolegwyr, gwleidyddion, gweithredwyr hinsawdd, prifysgolion a grwpiau cymdeithas sifil ar draws Canolbarth, Gorllewin a Gogledd Affrica ac Ewrop i gyflwyno un galwad unedig am weithredu.