Skip to main content

'The Herds' Diwrnod Bywyd Gwyllt a Chadwraeth

Dyddiad cychwyn
31-05-25
Dyddiad gorffen
31-05-25
Lleoliad
Amgueddfa Cyflymder

'The Herds' Diwrnod Bywyd Gwyllt a Chadwraeth

Mae Amgueddfa Cyflymder yn cynnal Diwrnod Bywyd Gwyllt a Chadwraeth ar 31 Mai, wedi'i ysbrydoli gan y prosiect byd-eang anhygoel o'r enw 'The Herds', sy'n anelu at herio safbwyntiau ar yr argyfwng hinsawdd.

 

Treuliwch y diwrnod yn darganfod am dirwedd a bywyd gwyllt unigryw Traeth Pentywyn:

 

- Ymunwch â Paul Aubrey am Safari Traeth

 

- Darganfyddwch gyfrinachau tywod Pentywyn

 

- Dysgu am Brosiect Morwellt

 

- Helpu i adeiladu Brân Goesgoch enfawr neu greu eich bywyd gwyllt lleol eich hun

 

- Gwyliwch Rachel Shiamh yn creu celfyddyd tywod anhygoel

 

Mae Amgueddfa Cyflymder wedi'i lleoli ychydig fetrau o Draeth Pentywyn enwog ac yn rhan o Ardal Cadwraeth Arbennig (ACA) Bae Caerfyrddin ac Aberoedd, Ardal Cadwraeth Arbennig Twyni Bae Caerfyrddin, Safle o Ddiddordeb Gwyddonol Arbennig (SoDdGA) Tywod Talacharn a Phentywyn ac ardal fach o Safle o Ddiddordeb Gwyddonol (SoDdGA) Aber Taf. Mae rhywogaethau mewn perygl y gellir eu canfod yn yr ardal yn cynnwys dyfrgwn, llygod dŵr, adar drycin Manaw a chwtiaid aur.


Treuliwch y diwrnod yn darganfod am rai o'r cynefinoedd unigryw sy'n amgylchynu'r Amgueddfa a'r amrywiaeth arbennig o fywyd gwyllt maen nhw'n ei ddenu, darganfyddwch y peryglon maen nhw'n eu hwynebu oherwydd yr argyfwng hinsawdd a beth allwch chi ei wneud i'w gwarchod ar gyfer y dyfodol. Ariennir y digwyddiad hwn gan y Gronfa Gelf mewn cydweithrediad â 'The Herds'.