'Sbwci!' Calan Gaeaf
Gweithgareddau Calan Gaeaf i bob oed. Adeiladu Ty Bwgan Naid. Gwyliwch ddangosiad arbennig o ParaNorman. Darganfyddwch ein Llwybr Calan Gaeaf arswydus.
'Sbwci!' Calan Gaeaf
Ymunwch â ni am Sbwci Calan Gaeaf yn Amgueddfa Parc Howard!
Ar ddydd Sadwrn, 26 Hydref, dewch â’ch ellyllon a’ch goblins am ddiwrnod o weithgareddau brawychus o hwyl!
Ein prif ddigwyddiad am 12:30 yw dangosiad arbennig o’r ffilm arswyd ParaNorman, sy’n berffaith ar gyfer teuluoedd sy’n dymuno setlo i mewn ar gyfer ffilm ar thema Calan Gaeaf. A lle i fwynhau! Mae'r ffilm tua 90 munud o hyd a gradd PG.
Hefyd yn rhedeg trwy gydol y dydd mae Gweithdai Tŷ Bwgan 'Naid' crefftus. Gall plant 5+ oed greu eu tŷ bwganllyd eu hunain sy’n dod yn fyw—yn union fel llyfr naid! Bydd y gweithdy yn cael ei arwain gan artist ac yn llawn o’r holl ddeunyddiau iasol sydd eu hangen i wneud campwaith bwganllyd. Cynhelir y sesiynau yn:
- 10:30-11:15
- 11:30-12:15
- 13:30-14:15
- 14:30-15:15
Gall pob sesiwn gymryd hyd at 16 o gyfranogwyr. Mae'n system y cyntaf i'r felin, felly gwnewch yn siŵr eich bod yn cyrraedd yn gynnar!
Ac, os nad oedd hynny’n ddigon, gallwch hefyd archwilio ein Llwybr Calan Gaeaf o amgylch yr Amgueddfa. Yn addas ar gyfer pob oed, mae'r llwybr hwn yn sicr o'ch cadw'n brysur!
Dim ond £4 y pen yw cost y diwrnod, sy'n cynnwys y tri gweithgaredd. Felly dewch wedi gwisgo eich gorau Calan Gaeaf a pharatowch ar gyfer diwrnod o hwyl creadigol, iasol a chrefftus!