Skip to main content

Nadolig yn yr Amgueddfa Cyflymder

Dyddiad cychwyn
21-12-24
Dyddiad gorffen
21-12-24
Lleoliad
Amgueddfa Cyflymder

Nadolig yn yr Amgueddfa Cyflymder

Dathlwch dymor y Nadolig yn yr Amgueddfa Cyflymder ym Mhentywyn arobryn, a gafodd ei choroni’n ddiweddar yn Atyniad Gorau yng Ngwobrau Twristiaeth Sir Gâr! Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn hwyl creadigol ac amser clyd i'r teulu ar ddydd Sadwrn, Rhagfyr 21ain.

 


Crefftau 'Gwneud a Chymryd' y Nadolig
Rhwng 12yp a 2yp yn yr Ystafell Arddangosfa Dros Dro ar y llawr gwaelod, galwch heibio a chreu crefftau Nadoligaidd gan ddefnyddio deunyddiau wedi'u hailgylchu. Yn berffaith ar gyfer plant (a’r ifanc eu calon!), mae’r gweithgareddau ecogyfeillgar hyn yn gadael i chi greu addurniadau Nadolig unigryw i fynd adref gyda chi. Darperir yr holl ddeunyddiau, ac anogir creadigrwydd!

 

 

Ffilm Nadolig
Ymsefydlwch ar gyfer ffilm deuluol Nadoligaidd o 2yp tan 4yp yn yr Ystafell Ddigwyddiadau ar y llawr cyntaf. Gall plant eistedd ar y llawr, tra bod seddi cyfyngedig ar gael i oedolion yn y cefn.

 

Dewch â'ch clustogau clyd, blancedi, neu deganau meddal eich hun i gael cysur ychwanegol. Mae croeso i chi ddod â byrbrydau a diodydd (mewn cynwysyddion caeedig) i’w mwynhau yn ystod y dangosiad.

 

 

Diwrnod Allan i'r Teulu

Mae’r ddau weithgaredd wedi’u cynnwys yn y pris mynediad ac yn agored i bob oed, sy’n ei wneud yn ddiwrnod allan perffaith i deuluoedd.

 

Dathlwch y Nadolig mewn steil a phrofwch hud yr ŵyl yn yr Amgueddfa Cyflymder. Ni allwn aros i'ch croesawu!