Skip to main content

Gwasanaeth Myfyrdod yn Amgueddfa Parc Howard

Dyddiad cychwyn
09-03-25
Dyddiad gorffen
09-03-25
Lleoliad
Amgueddfa Parc Howard

Gwasanaeth Myfyrdod yn Amgueddfa Parc Howard

Ymunwch â ni yn Amgueddfa Parc Howard am Wasanaeth Myfyrio i nodi Diwrnod Myfyrio Cenedlaethol COVID-19, dan arweiniad Euryl Howells, Uwch Gaplan Bwrdd Iechyd Prifysgol Hywel Dda.

 

Mae’r gwasanaeth hwn yn cynnig gofod tawel a chefnogol i gofio’r rhai sydd wedi colli eu bywydau ers dechrau’r pandemig ac i anrhydeddu’r ymroddiad, caredigrwydd a gwytnwch a ddangoswyd gan gynifer yn ystod y cyfnod heriol hwn.

 

Yn dilyn y gwasanaeth, byddwn yn ymgasglu yn yr ardd goffa ar gyfer bendith y Coeden Coffa (‘Coeden Myfyrdod’). Mae'r Hamamelis x Intermedia 'Arnold Promise' (Witch Hazel) hwn sydd newydd ei blannu wedi'i ddewis oherwydd ei briodweddau iachâd ac adferol, gan gynnig symbol parhaol o goffadwriaeth a gobaith.

 

Mae croeso i bawb gymryd rhan yn y foment hon o fyfyrio a chofio.