Skip to main content

Ffair Planhigion a Diwrnod Hwyl Blodau

Dyddiad cychwyn
26-04-25
Dyddiad gorffen
26-04-25
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gâr

Ffair Planhigion a Diwrnod Hwyl Blodau

Ymunwch â ni am ddiwrnod llawn o hwyl ar thema blodau yn Amgueddfa Sir Gâr a Pharc yr Esgob ar ddydd Sadwrn 26 Ebrill, fel rhan o ddathliad o’r gwanwyn, adrodd straeon, a chwedloniaeth Cymru.

 

Tra bod Ymddiriedolaeth Drws i'r Dyffryn yn cynnal ffair blanhigion fywiog yn y parc, bydd yr amgueddfa’n dod yn fyw gyda gweithgareddau creadigol wedi’u hysbrydoli gan chwedl hudolus Blodeuwedd, un o ffigurau mwyaf cyfareddol y Mabinogion. Wedi’i saernïo gan ddau ddewin o flodau’r dderwen, y banadl, a’r erwain, mae enw Blodeuwedd yn golygu “wyneb blodau” – a’i stori hi fydd wrth galon y dydd.

 

Y tu mewn i’r Amgueddfa, gall plant gael eu gweddnewidiad “wyneb blodau” eu hunain gyda phaentio wynebau hardd gan The White Rabbit Face Painting (awgrymir rhodd o £3 y pen). Gall teuluoedd hefyd fwynhau gweithgaredd crefft rhad ac am ddim, gan greu eu masgiau wyneb blodau eu hunain i fynd adref gyda nhw.

 

Ar adegau o’r dydd, ymgartrefwch i glywed chwedl Blodeuwedd yn dod yn fyw gan un o’n storïwyr gwirfoddol, gan rannu’r chwedl Gymreig hynafol hon mewn ffordd gynnes a deniadol.

 

Dim angen archebu.