Skip to main content

Drysau Agored 2024 yng Nghartref Dylan Thomas

Dyddiad cychwyn
20-09-24
Dyddiad gorffen
21-09-24
Lleoliad
Cartref Dylan Thomas

Drysau Agored 2024 yng Nghartref Dylan Thomas

Gwnewch yn siwr i archebu!

Bydd dau gyfle i dderbyn tocyn am ddim i Gartref Dylan Thomas eleni.

 


Ymwelwch ag Amgueddfa Sir Gâr ar benwythnos 7 – 8 Medi a chofrestrwch eich cyfeiriad e-bost wrth y dderbynfa i hawlio tocyn am ddim i’r Cartref. Bydd y tocyn yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost.

 

 

Neu, os yw’n well gennych, ewch i Amgueddfa Parc Howard ar benwythnos 14 – 15 Medi a chofrestrwch eich cyfeiriad e-bost wrth y dderbynfa yno gwnewch gais am docyn am ddim i’r Cartref hefyd. Bydd y tocyn yn cael ei anfon i'ch cyfeiriad e-bost hefyd.

 


Peidiwch ag anghofio dod â'ch tocyn gyda chi i'r Cartref - dim ond i'r rhai sydd â thocyn dilys y mae mynediad am ddim. Mae croeso i chi ei argraffu neu ei ddangos ar eich dyfais smart.

 

 

Rydym yn edrych ymlaen at eich croesawu!