Skip to main content

Gwnewch Pecynnau Llysieuol Canoloesol

Wedi ei hysbrydoli gan Tobias a'r Angel, gallwch wneud eich bagiau bach perlysiau canoloesol eich hun yn y digwyddiad rhad ac am ddim hwn - yn union fel Tobias!

Dyddiad cychwyn
18-10-23
Dyddiad gorffen
18-10-23
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gâr

Yn ystod yr Oesoedd Canol roedd pobl yn credu bod y defnydd o swyndlysau a swynoglau yn atal clefydau ac yn gwella symptomau

Roedd y swyndlysau a'r swynoglau hyn yn aml ar ffurf cwdyn bach, wedi ei glymu i wregys neu'n hongian yn y cartref. Eu pwrpas oedd puro'r aer ac amddiffyn y perchennog rhag afiechyd mewn cyfnod pan oedd meddyginiaeth yn fater o ffydd yn bennaf. I lawer, roedd sbeisys o'r dwyrain, crisialau a metelau gwerthfawr yn llawer rhy brin a drud, ac roedd y rhan fwyaf o bobl yn dibynnu ar 'ddewiniaeth sympathetig' a pherlysiau.