Skip to main content

Chwarter Canrif o Drysorau – y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru

Dyddiad cychwyn
03-02-24
Dyddiad gorffen
16-06-24
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gaerfyrddin

Mae'r Cynllun Henebion Cludadwy wedi bod yn gwarchod archaeoleg Cymru ers pum mlynedd ar hugain. Ers 1999 mae PAS Cymru wedi cofnodi dros 90,000 o arteffactau. Heb PAS Cymru, efallai byddai gwybodaeth am y trysorau hyn wedi'i golli am byth.

 

Mae'r arddangosfa hon yn dathlu gwaith y Cynllun Henebion Cludadwy yng Nghymru. Yma, fe welwch chi rai o'r trysorau archaeolegol sydd wedi'u gwarchod gan y cynllun.

 

Mae'r gwrthrychau hefyd yn brawf o'r partneriaethau sydd wedi'u meithrin rhwng arhaeolegwyr, amgueddfeydd a datgelyddwyr metel.

 

Chwarter Canrif o Drysorau yw ffrwyth y cydweithio llwyddiannus rhwng archaeolegwyr a datgelyddwyr metel.