Allech chi fod yn archeolegydd?
Oes gennych chi'r hyn sydd ei angen i fod yn archeolegydd? Dyma'ch cyfle i ddarganfod!
Dyddiad cychwyn
03-02-24
Dyddiad gorffen
24-05-24
Lleoliad
Amgueddfa Sir Gâr
Dewch o hyd i'r darnau arian
Dilynwch y map i ddod o hyd i'r darnau arian o amgylch yr amgueddfa. Bydd y rhain yn sillafu gair sy'n disgrifio rhywbeth y mae archeolegwyr wrth eu bodd yn dod o hyd iddo!
Darganfyddwch a ydych wedi llwyddo yn ein harddangosfa archeoleg ar y llawr cyntaf.
Eisiau cael y blaen? Lawrlwythwch y llwybr yma fel eich bod yn barod i fynd cyn gynted ag y byddwch yn cyrraedd!