Antur Amgueddfa’r Twitchers yng Nghartref Dylan Thomas
Yn ystod gwyliau hanner tymor fis Chwefror, beth am fynd i ymchwilio’r bywyd gwyllt rhyfeddol yng Nghartref Dylan Thomas yn rhan o Antur Amgueddfa’r Twitchers, sydd wedi’i drefnu gan Kids in Museums a Walker Books?
Ymunwch â'r llwybr bywyd gwyllt i deuluoedd yng Nghartref Dylan Thomas y gwyliau hanner tymor hwn!
Ymunwch â’r ditectifs gwylio adar, y Twitchers, i archwilio’r adar prydferth a’r anifeiliaid rhyfeddol sydd yng Nghartref Dylan Thomas. Codwch daflen weithgareddau am ddim i ymuno yn yr hwyl a m-wy-nhau gyda’ch teulu. Dewch o hyd i’r ffrindiau pluog i gyd sydd ynghudd yn y casgliad a gwnewch eich addewid eich hun fel teulu i ddiogelu bywyd gwyllt lleol.
Os byddwch chi’n gorffen y llwybr, cewch sticer Twitchers am ddim!
Bydd mwy na 50 o amgueddfeydd o amgylch Prydain yn cymryd rhan dros wyliau hanner tymor mis Chwefror ac yn annog teuluoedd i fwynhau ymweld â’u hamgueddfa leol. Bydd y gweithgaredd yn rhedeg o 10 Chwefror hyd 25 Chwefror 2024.
Bydd cyfle i deuluoedd hefyd gymryd rhan mewn cystadleuaeth dynnu enw o het genedlaethol wy-ch i ennill un o bum bwndel o’r pedwar llyfr sydd yn y gyfres Twitchers. Mae Kids in Museums yn gwahodd plant i ddylunio eu partner eu hunain sy’n aderyn neu’n anifail a rhannu eu llun ar Twitter/X neu Instagram gyda’r hashnod #TwitchersMuseumAdventure a’r tag @kidsinmuseums i gael cyfle i ennill.