Agoriad Swyddogol: Chwalu Ffiniau - Dathlu Menywod mewn Chwaraeon o Sir Gâr
Agoriad Swyddogol: Chwalu Ffiniau - Dathlu Menywod mewn Chwaraeon o Sir Gâr
Dathlwch agoriad swyddogol Chwalu Ffiniau: Dathlu Menywod mewn Chwaraeon yn Sir Gâr ar Ddiwrnod Rhyngwladol y Menywod.
Mae’r arddangosfa newydd sbon hon yn Amgueddfa Parc Howard yn taflu goleuni ar arloeswyr chwaraeon benywaidd anghofiedig a menywod sy’n parhau i wneud cyfraniadau pwysig i fywyd chwaraeon heddiw. Wedi’i chyd-guradu gan dîm o guraduron a gwneuthurwyr ffilm benywaidd ifanc o bob rhan o Sir Gâr, mae’r arddangosfa bwerus hon yn herio naratifau chwaraeon traddodiadol ac yn anrhydeddu cyflawniadau menywod a dorrodd rwystrau mewn chwaraeon sy’n aml yn cael eu dominyddu gan ddynion.
Ymunwch â ni ar 8fed Mawrth am 2yp i ddathlu’r merched arloesol hyn, cwrdd â’r curaduron ifanc, a bod ymhlith y cyntaf i archwilio’r arddangosfa ysbrydoledig hon. Yn dilyn yr agoriad, bydd panel trafod am 3yp yn cynnwys un o’r curaduron ifanc, yn ogystal â Catrin Stevens o Archif Menywod Cymru. Mae croeso i bawb i'r digwyddiad gwych hwn.